Mae'r gyfrol hon yn gwyntyllu'r cysyniad o hunaniaeth gyfreithiol Gymreig. Bu esblygiad y cysyniad a'i weithredu'n ymarferol yn destun trafod o fewn y gymuned gyfreithiol ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999. Bathwyd ymadrodd i grisialu'r broses, sef 'Cymru'r Gyfraith'. Bu Parry yn ystyried ac yn dadansoddi rhai o'r prif bynciau sydd wedi meithrin y syniad o hunaniaeth gyfreithiol Gymreig, a'r ffactorau sydd yn ysgogi ei ddatblygiad.