Ganrif ers ei eni, mae'r newyddiadurwraig Kate Crockett yn pwyso a mesur ambell gwestiwn sylfaenol ynghylch un o ffigurau llenyddol enwocaf Cymru, gan adrodd ei hanes yn llawn yn Gymraeg am y tro cyntaf. Cymro balch neu fradwr gwrth-Gymreig? Meddwyn di-chwaeth neu fardd sensitif? Pwy oedd y Dylan Thomas go iawn?