Bu'r Cymro Evan Jones yn cenhadu ymhlith Cenedl y Tsalagi (Cherokee) am ryw hanner canrif ac yn dyst i nifer o'r trobwytniau pwysicaf yn hanes y genedl frodorol honno. Mae'r llyfr hwn yn cyd-destunoli cenhadaeth Evan Jones a'i gydweithiwr Thomas Roberts, a hynny trwy graffu ar destunau perthnasol mewn tair iaith - y Saesneg, y Gymraeg a'r iaith Dsalagi. Mae'r drafodaeth yn canolbwyntio ar themau megis iaith, cyfieithu, llythrennedd, hanes llenyddol, a diwylliant print, ac fe'u dadansoddir yn bennaf o safbwynt eu perthynas a hunaniaeth genedlaethol. Dehonglir hefyd y modd y trafodid brodorion America ar dudalennau gwasg Gymraeg yr Unol Daleithiau. Ceir yma olwg ar destunau Cymraeg a ysgrifennwyd gan Gymry a oedd yn gwladychu tiroedd a fuasai'n eiddo i genhedloedd brodorol America, ac felly mae'r astudiaeth arloesol hon yn goleuo agweddau ar hanes 'y meddwl a'r dychymyg Cymreig' nas trafodwyd yn fanwl erioed o'r blaen. Eto, nid gwladychu yn unig a drafodir yma. Stryd ddwyffordd oedd y berthynas rhwng Evan Jones a Chenedl y Tsalagi: os oedd y cenhadwr Cymreig yn dylanwadu ar agweddau ar eu diwylliant, roedd diwylliant a bydolwg y Tsalagi yn dylanwadu arno yntau hefyd. Wrth drafod y prosesau cymhleth hyn, defnyddir 'feirniadaeth frodorol' a arloesid yn ddiweddar gan ysgolheigion sy'n perthyn i nifer o genhedloedd brodorol America. Mae'r astudiaeth hon yn trafod agweddau ar feddwl a dychymyg Cymreig y gorffennol, ond gobeithir y bydd y dulliau beirniadol hyn yn cynnig rhywbeth i feddwl a dychymyg Cymreig y dyfodol.